Mewnwelediadau

Rydym yn rhannu ein harbenigedd pensaernïol, gan ddarparu diweddariadau, uchafbwyntiau prosiectau, a thueddiadau dylunio sy'n ysbrydoli ein hymrwymiad i ofodau cynaliadwy, swyddogaethol yng Ngogledd Cymru.

Gan Adrian Williamson 18 Medi 2026
Ystyried prynu neu addasu adeilad rhestredig? Dyma beth rydym yn ei ddweud wrth ein cleientiaid: Mae rhywbeth arbennig am fyw mewn adeilad rhestredig. Nid perchennog yn unig ydych chi, ond ceidwad, yn gofalu am ddarn o hanes ar gyfer y rhai sy’n dod ar eich ôl. Mae hynny’n beth braf, ond mae hefyd yn dod â lefel o gyfrifoldeb nad yw tŷ modern yn ei olygu. Mae addasiadau yn gwbl bosibl, ond mae angen eu hystyried yn ofalus, ac mae ambell fagl ar hyd y ffordd i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r broses. Rydym yn gweithio gydag adeiladau rhestredig a hanesyddol ar draws Ynys Môn, Gwynedd ac Eryri, ac rydym yn cael ein hunain yn rhoi’r un cyngor dro ar ôl tro. Felly dyma fo, i gyd mewn un lle.

Meddwl am eich prosiect nesaf?