Mewnwelediadau
O'ch Syniad Cyntaf i'r Diwedd
Sut rydyn am arwain chi trwy eich prosiect:
Mae dechrau prosiect yn gallu teimlo’n eithaf llethol? Ddim otch os ydych chi’n cynllunio cartref newydd, estyniad, gwaith adnewyddu neu ddatblygiad mwy, mae yna gymaint o benderfyniadau i’w gwneud - o’r dyluniad cychwynnol drwodd i gynllunio, adeiladu a chwblhau’r gwaith.
Ein rôl ni yw eich arwain drwy’r broses, gan gyfuno dylunio, gwybodaeth dechnegol a chydlynu’r prosiect i helpu i droi eich syniadau’n adeilad sy’n gweithio i chi.
Rydyn ni’n rhannu’r broses yn gamau clir, yn seiliedig ar Gynllun Gwaith RIBA, fel eich bod chi’n gwybod beth sy’n digwydd, beth yw ein cyfrifoldebau ni a beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni.
Cam 0 – Dechrau ar eich prosiect
Cyn i’r gwaith dylunio ddechrau, rydyn ni’n sicrhau bod y prosiect wedi’i drefnu’n iawn.
Mae hyn yn cynnwys y gwaith gweinyddol cychwynnol, sefydlu gofynion y prosiect a sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddechrau. Mae’r cam cynnar hwn yn bwysig oherwydd mae prosiect sydd wedi’i drefnu’n dda yn rhoi dealltwriaeth glir i ni o beth sydd angen digwydd a pryd.
Cam 1 – Deall eich eiddo
Cyn i ni ddechrau dylunio, mae angen i ni ddeall yr adeilad a’r safle presennol.
Rydyn ni’n cynnal arolwg mesuredig, ynghyd â’r gwiriadau safle angenrheidiol. Mae hyn yn rhoi sail gywir i ni ddatblygu’r dyluniad. Mae’r wybodaeth o’r arolwg yn ein helpu i ddeall dimensiynau, cynllun a chyfyngiadau presennol yr eiddo, yn hytrach na dibynnu ar dybiaethau.

Lluniau o arolygon, a dynnwyd gan ein tîm.
Cam 2 – Datblygu’r cysyniad
Dyma lle mae eich syniadau’n dechrau troi’n ddyluniad.
Gan ddefnyddio eich brîff, eich gofynion a’ch syniadau, rydyn ni’n creu lluniadau cysyniad i chi edrych drwyddyn nhw a rhoi eich barn.
Ar y cam hwn, rydyn ni’n edrych ar sut gall y gofod weithio, sut gall yr adeilad edrych a sut gallwn ni ddod â’ch holl syniadau at ei gilydd mewn dyluniad sy’n gweithio i chi. Rydyn ni’n gweithio gyda chi i ddatblygu’r dyluniad nes ein bod ni’n hapus â’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd iddo.
Mae eich brîff yn bwysig, y mwyaf rydyn ni’n deall am yr hyn rydych chi am ei gyflawni, y gorau y gallwn ni ddylunio ar eich cyfer.
Mae eich brîff yn ein helpu i ddeall eich blaenoriaethau, sut rydych chi eisiau defnyddio’r gofod, eich cyllideb, eich amserlen a beth sy’n bwysig i chi. Does dim rhaid i chi wybod popeth o’r dechrau — rhan o’n gwaith ni yw gofyn y cwestiynau cywir a’ch helpu i weithio allan beth sydd ei angen or prosiect.


3D o ddyluniad arfaethedig ar gyfer dau eiddo.
Cam 3 – Cynllunio
Unwaith y bydd y dyluniad wedi datblygu, gallwn symud ymlaen i’r cam cynllunio.
Cais cynllunio-
Rydyn ni’n datblygu’r dyluniad ddigon i baratoi a chyflwyno Cais Cynllunio ar eich rhan.
Rydyn ni hefyd yn delio ag unrhyw gwestiynau perthnasol gan yr awdurdod cynllunio neu ymgynghorwyr eraill a all godi yn ystod y broses. Ein nod yw gwneud y broses gynllunio mor syml â phosib i chi, gan sicrhau bod y cynigion yn glir ac yn cael eu cefnogi gan y lluniadau a’r wybodaeth briodol.
Sylwch: nid yw rhyddhau amodau cynllunio wedi’i gynnwys oni bai ein bod wedi cytuno’n benodol ar hyn fel rhan o’n penodiad.

Logo Porth Cynllunio Ynys Môn - https://www.planningportal.co.uk/wales
Gwybodaeth Arolwg Ordnans-
Rydyn ni hefyd yn paratoi’r cynllun lleoliad Arolwg Ordnans (AO) perthnasol ar gyfer y cais cynllunio.
Cam 4 – Troi’r dyluniad yn brosiect y gellir ei adeiladu
Mae cael caniatâd cynllunio yn garreg filltir bwysig, ond nid dyna ddiwedd y broses ddylunio. Y cam nesaf yw datblygu’r cynnig yn ddyluniad technegol manwl y gellir ei adeiladu.
Dyluniad technegol a Rheoliadau Adeiladu-
Rydyn ni’n paratoi’r lluniadau technegol, manylion a chynlluniau sydd eu hangen ar gyfer cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.


Cynllun llawr ac adran adeiladu, yn dangos y manylion a’r elfennau strwythurol.
Mae hyn yn cynnwys cydlynu gyda chynllunwyr a pheirianwyr eraill sy’n rhan o ddyluniad manwl y prosiect.
Rydyn ni hefyd yn ymateb i unrhyw gwestiynau gan Reoli Adeiladu ac yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen ar y contractwr penodedig i wneud y gwaith ar y safle. Dyma lle mae’r prosiect yn symud o “beth allwn ni ei adeiladu?” i “sut ydyn ni’n mynd i’w adeiladu?”
Dylunydd Arweiniol ac Iechyd a Diogelwch-
Lle bo’n berthnasol, rydyn ni’n cyflawni dyletswyddau’r Prif Ddylunydd o dan CDM 2015 ac yn paratoi’r Cynllun Iechyd a Diogelwch Cyn Adeiladu.
Dylid meddwl am iechyd a diogelwch o gamau cynnar iawn’r prosiect, yn hytrach na delio ag ef ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau. Ein rôl ni yw helpu i nodi a rheoli risgiau drwy’r broses ddylunio a chydlynu’r wybodaeth berthnasol am iechyd a diogelwch.
Cam 5 – Paratoi ar gyfer adeiladu
Unwaith y bydd y dyluniad wedi’i ddatblygu, gallwn eich helpu i baratoi ar gyfer y gwaith adeiladu.
Cyfrifiadau ynni a gofynion technegol-
Yn dibynnu ar y prosiect, efallai y bydd angen cyfrifiadau fel SAP (Gweithdrefn Asesu Safonol) neu wybodaeth sy’n ymwneud ag EPC fel rhan o gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
Lle bo angen y gwasanaethau hyn, rydyn ni’n cydlynu’r wybodaeth a’r ymgynghorwyr perthnasol.
Gwybodaeth dendro ac adeiladu-
Gallwn hefyd baratoi amserlen waith lawn a’r wybodaeth dendro ar gyfer y prosiect.
Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gontractwyr i brisio’r gwaith arfaethedig ac yn eich galluogi chi, fel y cleient, i gymharu dyfynbrisiau mewn ffordd fwy cyson. Lle bo’n briodol, gallwn hefyd gydlynu gyda Syrfëwr Meintiau neu ymgynghorydd costau arall.
Eich cefnogi yn ystod y gwaith adeiladu-
Unwaith y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau, gall ein rôl ni barhau drwy gydol y prosiect.
Lle mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynnwys, rydyn ni’n mynychu cyfarfodydd safle a chyfarfodydd cynnydd i weld sut mae’r gwaith yn mynd ac i drafod unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y gwaith adeiladu.


Dau brosiect ar waith, yn dangos trwsiau pren (chwith) a gwaith maen gyda thrawst mawr uwchben agoriad ffenestr (dde).
Anaml y mae gwaith adeiladu’n mynd yn union yn ôl y cynllun, felly gall cael eich pensaer gyda chi fod yn help mawr pan fydd cwestiynau neu faterion annisgwyl yn codi.
Gallwn helpu i ddehongli’r lluniadau, cydlynu gyda’r contractwr a sicrhau bod syniad a dyluniad gwreiddiol y prosiect yn cael eu cadw mewn golwg.
Cam 6 – Cwblhau a throsglwyddo
Wrth i’r prosiect ddod i ben, rydyn ni’n helpu i ddod â’r broses i ben.
Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo’r adeilad ac, lle bo’n berthnasol, paratoi a chyflwyno’r Datganiad Cymhwysedd o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) sydd ei angen cyn y gellir cyhoeddi’r Dystysgrif Derfynol.
Mae’r gofynion Diogelwch Adeiladau newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar gymhwysedd, cyfrifoldeb a chadw’r wybodaeth briodol drwy gydol y prosiect. I chi fel cleient, mae hyn yn golygu bod dewis y gweithwyr proffesiynol cywir a chadw cofnodion da drwy gydol y prosiect yn bwysicach nag erioed.

Plasty gwledig gyda estyniadau modern, tŷ gwydr pwrpasol ac adeilad pren ar wahân.
Cam 7 – Ar ôl i chi symud i mewn
Does dim rhaid i’n rhan ni o’r prosiect ddod i ben pan fydd yr adeilad wedi’i gwblhau.
Lle mae hyn wedi’i gynnwys yn ein gwasanaeth, gallwn gynnal adolygiad ar ôl i chi symud i mewn, unwaith eich bod wedi cael cyfle i ddefnyddio’r adeilad.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ni weld sut mae’r gofod gorffenedig yn gweithio i chi mewn gwirionedd a nodi unrhyw faterion y gallai fod angen delio â nhw.

Cartref arfordirol moethus, hynod fodern, gyda waliau gwydr crwm trawiadol a thu mewn llachar a chwaethus.
Gwasanaeth llawn, o syniad i reality. O’r sgwrs gyntaf am eich syniadau hyd at gwblhau’r prosiect, ein nod yw gwneud y broses bensaernïol yn gliriach, yn haws i’w rheoli ac yn llai brawychus.
Meddwl am ddechrau prosiect?
Os ydych chi’n ystyried estyniad, gwaith adnewyddu, cartref newydd neu ddatblygiad mwy, gall cael cyngor pensaernïol yn gynnar eich helpu i ddeall beth sy’n bosib, pa wybodaeth sydd ei hangen a beth mae’r prosiect yn debygol o’i gynnwys.
Dechreuwch gyda’ch syniadau. Byddwn ni’n eich helpu i weithio allan y camau nesaf.
Postiadau diweddar




