Mewnwelediadau
Elfennau Bioamrywiaeth
Bioamrywiaeth a phrosiectau adeiladu:
Gwneud lle i natur yn eich cynlluniau
Mae pob prosiect adeiladu, waeth pa mor fach, yn newid darn bach o’r byd naturiol. Am gyfnod hir roedd y system gynllunio yn trin hynny fel ôl-ystyriaeth. Nid bellach. Yng Nghymru, mae’n rhaid i bob cais cynllunio ddangos sut mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i natur, ac mae rhai ffyrdd syml a rhad iawn o wneud hynny yr ydym yn eu cynnwys yn ein prosiectau fel mater o drefn.
Mae’r post hwn yn egluro beth mae’r rheolau yn gofyn amdano, ac yna’n mynd drwy’r pethau ymarferol y gallwch eu gwneud ar eich prosiect eich hun, o fwlch draenog mewn ffens i’r ysguboriau ystlumod a’r tyrau tylluanod rydym wedi’u dylunio ar Ynys Môn.
Beth mae’r rheolau cynllunio yn ei ofyn bellach
Mae rhifyn diweddaraf Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 12) yn gofyn bod Datganiad Seilwaith Gwyrdd yn cyd-fynd â phob cais cynllunio yng Nghymru. Mae’r paragraff allweddol, 6.2.5, yn dweud:
“Dylid cyflwyno datganiad seilwaith gwyrdd gyda phob cais cynllunio. Bydd hwn yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig a bydd yn disgrifio sut mae seilwaith gwyrdd wedi’i ymgorffori yn y cynnig. Yn achos mân ddatblygiad, disgrifiad byr fydd hwn ac ni ddylai fod yn ofyniad beichus i ymgeiswyr. Bydd y datganiad seilwaith gwyrdd yn ffordd effeithiol o ddangos canlyniadau amlswyddogaethol cadarnhaol sy’n briodol i’r safle dan sylw ac mae’n rhaid ei ddefnyddio i ddangos sut mae’r dull cam wrth gam (Paragraff 6.4.21) wedi’i gymhwyso.”
Y geiriau pwysig yno yw “cymesur” ac “ni ddylai fod yn ofyniad beichus”. Ar gyfer estyniad tŷ neu addasiad bach, paragraff neu ddau byr yn disgrifio beth rydych yn ei wneud dros natur yw’r datganiad fel arfer, ac rydym yn ei baratoi fel rhan o’r cais. Yr hyn mae’r awdurdod cynllunio am ei weld yw eich bod wedi meddwl am y peth ac wedi cynnwys rhywbeth yn y dyluniad, yn hytrach na’i ychwanegu ar y diwedd.
Y cefndir cyfreithiol ehangach yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio, sy’n egluro sut mae’r ddyletswydd honno’n cael ei chymhwyso drwy’r system gynllunio.

Enghraifft ddarluniadol o welliannau bioamrywiaeth o amgylch tŷ cyffredin: blychau gwenoliaid duon ac ystlumod, cwpanau gwenoliaid y bondo, blwch adar, bwlch a blwch draenog, briciau gwenyn, plannu ar gyfer peillwyr, pwll a wal ddelltwaith werdd.
Felly beth allwch chi ei wneud i roi budd net i natur?
Y peth mwyaf gwerthfawr yw cynefin. Mae creu neu wella cynefin lled-naturiol, megis gwrychoedd brodorol, ardaloedd blodau gwyllt, pyllau a choed, yn gwella cysylltedd ar gyfer ystlumod, adar, draenogod, amffibiaid, ymlusgiaid a phryfed, a gall gyflawni budd net gwirioneddol i fioamrywiaeth ar eich safle.
Lle nad yw’r adeilad ei hun yn cynnig lle synhwyrol i integreiddio nyth neu glwyd, blychau wedi’u gosod ar goed neu waliau yw’r peth gorau nesaf. Rydym fel arfer yn nodi blychau woodcrete yn hytrach na rhai pren: maent wedi’u gwneud o ddeunydd gwydn sy’n para’n hir ac maent yn llawer mwy tebygol o oroesi am oes yr adeilad. Lle bynnag y rhowch nhw, mae lleoliad yn bwysig. Mae gan bob rhywogaeth ei dewisiadau ei hun o ran uchder, cyfeiriad a chysgod, a bydd blwch yn y lle anghywir yn aros yn wag.
Ystlumod
Mae blychau ystlumod yn rhoi rhywle i ystlumod glwydo lle mae mynediad at glwydfannau mewn coed ac adeiladau addas yn gyfyngedig. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod gyngor clir ar ddewis a gosod blwch ystlumod.
Os ydych yn gweithio ar adeilad sydd eisoes ag ystlumod, un o’r ffyrdd symlaf o ddiogelu’r glwydfan yn y tymor hir yw cynnwys pwynt mynediad i ystlumod, er enghraifft llechen fynediad bwrpasol neu fwlch bach o dan y grib neu’r bondo. Mae ystlumod wedi’u diogelu’n llym gan y gyfraith, felly mae hyn yn aml yn ofyniad ffurfiol o’r gwaith, a dylech bob amser gael cyngor personol gan ecolegydd cyn bwrw ymlaen. Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn egluro’r opsiynau ar gyfer creu mynediad i ystlumod.


Blychau ystlumod woodcrete wedi’u gosod yn uchel ar wal dalcen, dan gysgod y bondo (chwith).
Mae llechen fynediad bwrpasol yn gadael ystlumod i mewn ac allan o do heb adael y tywydd i mewn (dde).
Draenogod
Gall draenogod deithio tua milltir bob nos i chwilio am fwyd a chysgod, ac mae gardd wedi’i ffensio’n llwyr yn ben draw iddynt. Priffordd draenogod yw cyfres o dyllau bach, tua 13cm sgwâr, mewn ffensys a waliau sy’n gadael draenogod i symud yn rhydd rhwng gerddi, parciau a rhandiroedd heb orfod croesi ffyrdd. Nid yw’n costio bron dim, ac mae’n un o’r pethau hawsaf i’w hychwanegu at unrhyw brosiect sydd â ffin.

Bwlch draenog mewn ffens gardd, gyda phlac fel bod y perchennog nesaf yn gwybod beth yw ei bwrpas.
Adar gardd
Mae blychau adar yn ffordd hawdd ac effeithiol o roi cartref i amrywiaeth o rywogaethau. Dylid gosod blychau ar gyfer titwod, adar y to a drudwy rhwng dau a phedwar metr i fyny coeden neu wal. Oni bai bod coed neu adeiladau yn cysgodi’r blwch yn ystod y dydd, wynebwch ef rhywle rhwng y gogledd a’r dwyrain fel ei fod yn osgoi haul cryf a’r gwyntoedd gwlypaf, gwnewch yn siŵr bod gan yr adar lwybr hedfan clir at y fynedfa, a gogwyddwch y blwch ymlaen ychydig fel bod glaw yn taro’r to ac yn bownsio i ffwrdd. Mae gan yr RSPB ganllaw da i flychau nythu.
Gwenoliaid duon, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo
Gellir gosod briciau a blychau nythu gwenoliaid duon, a chwpanau nythu gwenoliaid a gwenoliaid y bondo, o dan fondo adeilad i roi rhywle i’r ymwelwyr haf hyn fridio. Gellir adeiladu bricsen gwennol ddu yn uniongyrchol i mewn i wal tŷ neu estyniad newydd ac mae angen iddi fod o leiaf bum metr uwchben y ddaear gyda chwymp clir oddi tani. Mae niferoedd gwenoliaid duon wedi gostwng yn sylweddol, ac mae bricsen wedi’i hadeiladu i mewn i wal cartref newydd yn un o’r pethau mwyaf defnyddiol y gall adeilad ei wneud drostynt. Gweler Swift Conservation am ragor.


Aderyn y to wrth fynedfa blwch nythu (chwith).
Gwennol ddu yn gadael blwch nythu pwrpasol (dde).
Ysguboriau ystlumod, tyrau tylluanod a strwythurau eraill ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi dylunio nifer o strwythurau pwrpasol ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Mae rhai wedi tyfu o addasiadau ysguboriau ac adeiladau allanol, lle mae’n rhaid disodli clwydfan neu safle nythu presennol; mae eraill yn adeiladau pwrpasol ar safle newydd lle mae ecolegydd wedi nodi’r angen. Gan weithio ochr yn ochr ag ecolegwyr lleol gan gynnwys Cambrian Ecology, EcoScope, Greenman Ecology ac Enfys Ecology, rydym wedi datblygu cyfres o “ysguboriau ystlumod” a “thyrau tylluanod” sydd wedi mynd ymlaen i gartrefu nid yn unig ystlumod a thylluanod ond gwenoliaid duon, adar y to, cudyllod coch, gwenyn a mwy. Mae’r lluniau yma o sawl safle ar Ynys Môn. Cafodd llawer o’r manylion cynefin eu datblygu gyda’r ecolegwyr, gan dynnu ar ganllawiau’r
Barn Owl Trust a’r
Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod.

Tŵr tylluanod o gerrig yn cael ei adeiladu ar Ynys Môn (chwith).
Ysgubor ystlumod newydd wedi’i hadeiladu o gerrig lleol gyda tho llechi (dde).

Tylluan wen yn cael ei harchwilio gan ecolegydd (chwith).
Ystlumod yn clwydo yn un o’r strwythurau gorffenedig (dde).
Gair o gyngor cyn i chi ddechrau
Os yw eich gwaith adnewyddu neu addasu yn golygu newidiadau mawr i do neu ofod atig, yn enwedig mewn adeilad hŷn, ysgubor neu strwythur sydd wedi sefyll yn wag am gyfnod, siaradwch ag ecolegydd ymgynghorol yn gynnar. Mae ystlumod, tylluanod gwynion ac adar sy’n nythu i gyd wedi’u diogelu gan y gyfraith, a gall dod o hyd iddynt hanner ffordd drwy’r gwaith ddod â phopeth i stop. Mae arolwg ar y dechrau, yn ddelfrydol yn nhymor arolygu’r gwanwyn neu’r haf, yn ein galluogi i ddylunio’r mesurau lliniaru o’r cychwyn ac yn cadw’r prosiect ar amser.
Sut y gallwn ni helpu
Rydym yn cynnwys bioamrywiaeth ym mhob prosiect rydym yn ei ddylunio, o’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd sy’n mynd i mewn gyda’r cais cynllunio i’r fricsen gwennol ddu yn y wal dalcen. Os ydych yn cynllunio estyniad, addasiad neu adeilad newydd unrhyw le yn Ynys Môn, Gwynedd neu Eryri, rydym yn hapus i drafod beth fyddai’n gweithio ar eich safle.
Dolenni defnyddiol
Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 12 sy’n nodi gofyniad y Datganiad Seilwaith Gwyrdd, ac mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a TAN 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio yn rhoi’r cefndir cyfreithiol a pholisi. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ganllawiau ar flychau ystlumod a chreu mynediad i ystlumod, mae’r RSPB yn ymdrin â blychau nythu, Swift Conservation â briciau a blychau gwenoliaid duon, ac mae gan y Barn Owl Trust gyngor manwl ar ddarpariaeth i dylluanod mewn adeiladau.
Postiadau diweddar



