Wnaethon ni weithio gyda’r cleient oedd yn adfer y ffermdy Gradd II* rhestredig hwn yn ofalus, gan gadw ei gymeriad gwreiddiol.
Roedd y briff yn cynnwys dylunio estyniad modern, gyda gwydr a chladin sinc. Mae’r ardaloedd gwydr yn yr estyniad newydd yn gadael i waith carreg gwreiddiol y ffermdy barhau i fod yn ganolbwynt.