Shearwater

Hen eiddo mewn cyflwr gwael yn Post Office Lane, Rhosneigr. Prynwyd yr eiddo gan ein cleientiaid yn 2008.

Roedd yr eiddo mewn cyflwr gwael ac yn dilyn trafodaethau gyda'n cleientiaid, gwnaethom ddechrau arni i drawsnewid y safle a chreu tŷ cyfoes ger y traeth â thro unigryw iddo.

Bu i'r eiddo, sydd bellach yn dwyn yr enw Shearwater, ymddangos yn rhifyn mis Chwefror 2011 o gylchgrawn SelfBuild & Design.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Yn ôl y gofynion, bu'n rhaid sicrhau nad oedd y dyluniad arfaethedig yn cysgodi'r eiddo cyfagos fwy nag yr oedd eisoes gan wneud y mwyaf o'r safle gweddol fach. Mae gan y dyluniad terfynol doeau ar wahanol lefelau a threfniadau byw agored ar y llawr cyntaf gyda 2 ystafell wely fawr, ystafell ymolchi foethus ac ystafelloedd gwlyb ar y llawr gwaelod.

Mae'r eiddo wedi'i wneud o ffrâm bren wedi'i ynysu'n dda gyda'r gwres yn cael ei gynhyrchu drwy bwmp gwres ffynhonnell aer yn cyflenwi gwres o dan y llawr ar y llawr gwaelod a rhai gwresogyddion ar y llawr uchaf. Ar y cyfan, dyma eiddo arbennig nad ydyw'r tu allan yn datgelu'r tu mewn eang, sydd wedi'i orffen i safon uchel iawn.


Previous
Previous

Hafan

Next
Next

Tŷ Coed Pinwydd