Hafan

Wedi'i leoli ym Mhorth Trwyn, Ynys Môn, gofynion y prosiect hwn oedd trawsnewid cyn-annedd a gafodd ei hadeiladu yn y 1950au o fod yn eiddo ffrâm bren Colt nad oedd wedi'i gynnal a'i gadw i safon ddigonol dros y 15-20 mlynedd diwethaf ac a oedd mewn angen gwaith atgyweirio.

Roedd y cleient yn awyddus i ddisodli'r annedd â thŷ teulu un llawr gyda system thermol hynod effeithlon a threfniadau byw agored yn seiliedig ar y golygfeydd o Fynydd y Tŵr a Phorth Trwyn tua'r gogledd-orllewin, gydag ystafelloedd gwely bob ochr i'r brif ardal fyw yn y canol ac ystafelloedd ychwanegol yn y cefn.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Roedd y gwaith adeiladu yn golygu waliau allanol PolarWall ffurfwaith concrid wedi'u hynysu o 350mm (ar y cyfan), system wresogi o dan y llawr wedi'i hynysu'n dda ac yn gweithredu oddi ar bwmp gwres o'r ddaear, awyru mecanyddol gyda system adfer gwres ar gyfer rheoli hinsawdd, a drysau a ffenestri NorDan o alwminiwm a phren gyda thair haen o wydr. To llechi naturiol gyda'r adran ganol yn TATA Colourcoat Urban, rendr allanol PermaRock a chafnau dŵr glaw Lindab Rainline. Mae ffurf derfynol yr annedd yn gweddu'n dda â'r cymdogion, y mae'r cwbl ohonynt yn adeiladau un llawr.

Dyluniad Strwythurol – ICIS Design Limited – Swydd Gaer

Awyru mecanyddol gyda system adfer gwres a Phwmp gwres o'r ddaear – Energy My Way (Rhydychen) Ltd

Lluniau – Andy Marshall @fotofacade

Gwaith Adeiladu – James Sayle & Sons Ltd


Previous
Previous

Camlan

Next
Next

Shearwater