The Black Lion

Caeodd y dafarn ei drysau yn 2005 ac felly y bu hyd nes i'n cleientiaid brynu'r adeilad yn 2010. Unwaith y cytunwyd ar y dyluniad a phan gafwyd caniatâd Cynllunio a chaniatâd Adeilad Rhestredig, dechreuodd y gwaith o adnewyddu ac estynnu ddiwedd 2011.

Ail-agorwyd Tafarn y Black Lion i’r cyhoedd fel tafarn ym mis Awst 2012 felly galwch draw os ydych yn mynd heibio.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Roedd y prosiect yn cynnwys dymchwel ychwanegiadau diweddarach i'r adeilad gwreiddiol ac adeiladu cegin ac ystafell fwyta fasnachol newydd i'r tu cefn sydd â golygfeydd o fynyddoedd Eryri.

Amlygwyd waliau gwreiddiol y tafarndy a'i ail-adeiladu gyda gwres o dan y llawr yn cael ei gyflenwi gan bwmp gwres ffynhonnell aer. Defnyddiwyd panelau dŵr poeth solar hefyd. Ar y tu allan, cafodd yr adeilad ei ail-rendro gyda chalch gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a defnyddiwyd llechi Cymreig adferedig ar y to.


Previous
Previous

Potjam

Next
Next

Hangin’ Pizzeria