Pier y Tywysog

Mae'r Cyn-warws sydd wedi'i lleoli ar y cei a elwir yn Pier y Tywysog erbyn heddiw, a chyn-dŷ meistr y pier yn rhan weladwy ac amlwg o hanes glannau Porthaethwy.

Adeiladwyd y cei oddeutu 1838 ac ychwanegwyd y warws ychydig yn ddiweddarach, yn yr 1840au o bosibl, ond fwyaf tebyg yn y 1850au.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Adeiladwyd y cei i hwyluso estyniad masnachol Richard Davies and Sons a oedd yn mewnforio nwyddau a deunyddiau, gan gynnwys pren, i'w warysau yn Stryd y Paced, gerllaw'r cei.

Yn ystod y 1840au, prynodd a rheolodd Messrs Davies sawl llong o Ogledd America, yn cludo mudwyr i Ogledd America a'r Taleithiau Deheuol, yn allforio llechi i New Orleans, Boston a chyrchfannau eraill ac yn dychwelyd yn rheolaidd i gei Porthaethwy gyda chargoau o bren o Gwebéc, Nova Scotia a New Brunswick.

Yn ystod y blynyddoedd prysuraf, 1846 i 1848, aeth llongau Davies ar hanner cant o fordeithiau, a defnyddiodd dri deg tri ohonynt gei Porthaethwy. Y llong fawr ddiwethaf gan Davies i ddefnyddio'r cei oedd yr Arglwydd Stanley, a gychwynnodd ar ei thaith o Borthaethwy, tua Montevideo, ar 9 Medi 1868.


Previous
Previous

Campfa Bangor