TH1

Salon trin gwallt fach a oedd eisiau symud o Lôn Glan y Môr, Bangor i leoliad mwy addas ac amlwg yn y ddinas er mwyn cynnal a chynyddu ei sylfaen gleientiaid.

I ddechrau, ymddengys mai dewis anghyffredin oedd Capel Moreia ar Ffordd Caernarfon, Bangor, ond roedd yn caniatáu'r strwythur agored a'r lle yr oedd ei angen ar y cleient i ehangu'r busnes.

Cwblhawyd y prosiect ddechrau 2006.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Roedd y capel wedi bod yn wag ers blynyddoedd cyn ein comisiwn ac wedi'i strwythuro yn ôl trefniant capel nodweddiadol gydag ardal eistedd a phulpud yn y prif gapel ac ystafell Ysgol Sul y tu cefn.

Ein briff oedd ail-ddylunio'r lle i greu salon trin gwallt agored, golau ac awyrog, ystafelloedd triniaethau harddwch a chyfleusterau i staff a chleientiaid.

Cyflawnasom hyn drwy greu'r salon trin gwallt agored ar y llawr gwaelod a chael gwared ar gyntedd y capel yn y tu blaen a gosod pâr o ddrysau gwydr di-ffrâm yn ei le a oedd yn caniatáu i bobl sy'n mynd heibio weld y salon yn glir, gan gael gwared ar unrhyw rwystrau i fynd i mewn.

Gwnaethom hefyd gyflwyno llawr llofft ganol i greu lle i'r ystafelloedd triniaethau harddwch newydd gyda gofod uchder llawn er mwyn creu galeri yn y tu blaen ynghyd â grisiau modern newydd. Agorodd salon trin gwallt a harddwch TH1 ei drysau yng Nghapel Moriah yn 2007 ac mae wedi parhau i ffynnu yn ei lleoliad newydd, gyda chanmoliaeth fawr gan y perchennog a chleientiaid at ei gilydd.


Next
Next

Canolfan Dyfi (The Black Shed)