Y Berllan

Wedi'i leoli mewn ardal hyfryd, nid nepell o'r môr yn Nhraeth Coch, Ynys Môn.

Cysylltodd ein cleientiaid â ni ar ôl prynu byngalo a adeiladwyd yn y saith degau ar blot aeddfed, mawr, gyda garej dwbl adfeiliedig.

Eu briff cychwynnol oedd estyniad un llawr i dalcen yr eiddo a byddai hynny'n ei wneud yn eiddo hir iawn gyda choridor helaeth.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Cawsom ysbrydoliaeth i'r safle hwn o New England a dechreuasom arni drwy awgrymu codi'r to er mwyn darparu'r llety ychwanegol angenrheidiol, gyda mân waith addasu i'r llawr gwaelod er mwyn creu lle i'r grisiau, ystafell gyfleustodau ac addasiadau i'r ystafell ymolchi. Mae ein cynnig a'n dewis o orffeniadau ar gyfer y tu mewn a'r tu allan wedi trawsnewid y safle ac mae bellach yn eiddo hyfryd a chyfoes mewn lleoliad syfrdanol.

Fel rhan o'r cynllun cyffredinol, dymchwelwyd y garej adfeiliedig ac adeiladwyd garej cladin dau lawr â ffrâm bren iddi gyda digon o le i 3 char a storfa uchel. Cwblhawyd y gwaith hwn cyn gwneud yr addasiadau i'r prif eiddo.


Previous
Previous

Glan Tywyn Dairy

Next
Next

Bryn Ceasar Farm