Cefn Y Coed

Byngalo oedd yr eiddo hwn wedi'i osod mewn lleoliad hyfryd ger glannau'r Afon Menai, a oedd wedi'i adnewyddu'n gyffredinol oddeutu 10 mlynedd yn ôl.

Roedd y cleient yn awyddus i ddiweddaru'r estheteg ac ail-fodelu'r eiddo er mwyn cynyddu a gwella'r ardaloedd byw ac ystafell wely ynghyd â strwythur ac ymarferoldeb yr eiddo yn gyffredinol.

Cwblhawyd y prosiect tua diwedd haf 2011.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Yn ôl manyleb y cleient, penderfynwyd ar y canlynol:

  • Trawsnewid y llofft ac estynnu'r gofod gyda dormerau sied er mwyn gwneud lle i'r ystafell wely ychwanegol.

  • Defnyddio arwyneb y llawr gwaelod ar gyfer y trefniadau byw agored er mwyn caniatáu golygfeydd tua'r de ar draws yr Afon Menai a mynyddoedd Eryri yn y pellter.

  • Estynnu cefn yr eiddo er mwyn creu lle i'r grisiau i'r ardal newydd ar y llawr cyntaf. Nid yn unig yr oedd hyn yn caniatáu mwy o olau i'r eiddo, ond roedd hefyd yn rhoi pwynt ffocws a oedd ar goll yn yr eiddo yn y gorffennol.

Cadwyd y tu mewn yn syml, eang ac agored, gydag ardaloedd apig uchder llawn pryd bynnag roedd hynny'n bosibl. Cadwyd y gorffennu mewnol yn lân a syml hefyd gyda gosodion a gorffeniadau o ansawdd uchel drwy gydol yr eiddo ynghyd â grisiau amlwg o bren collen Ffrengig a gwydr ger y fynedfa gyda drysau gwydr di-ffrâm yn arwain at yr eiddo.

Cadwyd y gorffennu allanol yn syml hefyd er mwyn dynwared y golau a ffurf y gofod tu mewn. Gorffennwyd yr eiddo gyda rendr gwyn glân, cladio fertigol Sinc, llechen naturiol, ffenestri a drysau pren a chladin alwminiwm llwyd modern a chanopi gwydr amlwg er mwyn rhoi gorffeniad glân a ffres i'r eiddo.

 

 
Previous
Previous

Yr Odyn Calch

Next
Next

Craig Y Don