Tŷ Glan Y Mor

Safle gydag annedd arno (system Colt) oedd hwn, a oedd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn ac a oedd mewn cyflwr gwael oherwydd diffyg cynnal a chadw, lleithder ac ymosodiad/difrod difrifol pryfed pren.

Cysylltwyd â ni i edrych ar y safle, dylunio annedd newydd a gwneud cais amdani. Nid oes prif gyflenwad nwy yn y safle ac felly, gwnaethom gynghori'r cleient i ystyried y syniad o ddefnyddio pwmp gwres o'r ddaear. Nid oedd y cleient yn awyddus i gael olew oherwydd achosion o ddwyn olew a phris cynyddol tanwyddau ffosil.


Rhagor ynghylch y prosiect hwn...

Ein briff oedd dylunio cartref modern, golau, awyrog ac apelgar i'w teulu ifanc y gellid hefyd ei gloi ac a oedd yn ddiogel petai'r lle yn wag. Roedd y dyluniad yn cynnwys cegin fawr, ystafell fwyta agored ac ystafell haul/ystafell ddydd oddi ar yr ystafell fwyta gyda lolfa glyd ar wahân er mwyn dianc rhag y plant. Mae'r safle mewn lleoliad agored iawn gyda golygfeydd godidog o Borth Swtan ac Ynys Cybi. Oherwydd y lleoliad agored, gwnaethom benderfynu gosod ffenestri, drysau o ansawdd well a chafnau glaw.

Roedd y waliau, lloriau a'r to wedi'u hadeiladu mewn modd traddodiadol gyda waliau ceudod o Flociau, sylfaen stribed a slab concrid a tho toredig gyda thrawstiau a thrawslathau haearn, wedi'u gorffennu â llechi a tho gwniadau fertigol a chladin o goed cedrwydd cochion a rendr wedi'i beintio. Cwblhawyd y prosiect tua diwedd haf 2012.


Previous
Previous

Trefor Wen

Next
Next

Trefalyn